Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 13 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 15.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Alun Ffred Jones AC (Cadeirydd) Jeff Cuthbert AC Russell George AC Llyr Gruffydd AC Julie Morgan AC William Powell AC Jenny Rathbone AC Antoinette Sandbach AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Rachel Lewis-Davies, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Haydn Evans, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Rhian Nowell-Phillips, Undeb Amaethwyr Cymru Keri Davies, Grŵp Organig Cymru Chris Atkinson, Soil Association Stephen Clarkson, Organic Farmers and Growers Huw Edwards, Organic Food Federation Nic Lampkin, Organics Research Centre Tony Little, Organic Centre Wales Dr Gareth Wood, SSE Energy Stuart Margerrison, British Gas John Mason, EDF Energy Claire Doherty, Scottish Power |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Ail Clerc) Adam Vaughan (Dirprwy Glerc) Peter Hill (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
View the meeting transcript.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson a Mick Antoniw. Nid oedd dirprwyon.
2 Ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig: Sesiwn dystiolaeth 1
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
3 Ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig: Sesiwn dystiolaeth 2
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
4 Ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig: Sesiwn dystiolaeth 3
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 6, 9 a 10
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
6 Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru: Trafod y prif faterion
Bu’r Aelodau’n trafod y prif faterion.
7 Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru: Tystiolaeth gan gwmniau ynni
7.1 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
7.2 Cytunodd SSE i ddarparu rhagor o wybodaeth am nifer yr ymweliadau cartref a wneir yng Nghymru, a chanran y cwsmeriaid sy'n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw.
7.3 Cytunodd Nwy Prydain i roi manylion ynghylch ei gyflwyniad i'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd.
8 Papurau i'w nodi
Ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
8.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015: Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
8.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Deiseb P-04-575 - Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
8.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol mewn perthynas â Barn Resymedig y Comisiwn Ewropeaidd ar Storio Gwastraff Mercwri Metelaidd
8.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
9 Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Trafod casgliadau drafft
Bu’r Pwyllgor yn trafod y casgliadau drafft.
10 Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ewropeaidd: Prif goflenni deddfwriaethol yr UE
Cytunodd y Pwyllgor ar y ffordd ymlaen a nodwyd yn y papur.